Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gellir trin camweithrediad y bledren?

Gellir trin camweithrediad y bledren mewn ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar y broblem, yr achos a sut yr ydych yn teimlo. Bydd eich meddyg neu eich nyrs yn trafod yr opsiynau â chi. Gall y rhain gynnwys y canlynol:

  • Gall ymyriadau a newidiadau i'ch ffordd o fyw eich helpu i wella eich iechyd a'ch llesiant cyffredinol.
  • Gall gwella eich llesiant a'ch ffitrwydd cyffredinol hefyd helpu i gryfhau eich cyhyrau i helpu i reoli eich pledren.
  • Weithiau defnyddir meddyginiaethau i helpu i wella rheolaeth ar y bledren.
  • Mae Gwasanaethau Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis yn dimau o ffisiotherapyddion arbenigol sy'n darparu asesiadau a thriniaethau ar gyfer anhwylderau sy'n effeithio ar iechyd y pelfis, gan gynnwys poen yn y pelfis.
  • Gall ymyriadau mwy arbenigol gynnwys bioadborth, dyfeisiau y gellir eu mewnosod a phigiadau.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: