Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw symptomau camweithrediad y bledren?

  • Efallai y byddwch yn profi wrin yn gollwng oherwydd bod mwy o bwysau ar y bledren. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, pan fyddwch yn pesychu, yn tisian, yn chwerthin, yn symud neu'n codi rhywbeth (anymataliaeth straen). Gall hyn fod yn waeth os ydych dros bwysau.
  • Efallai y byddwch yn profi awydd cryf i fynd i'r toiled, ac nid o reidrwydd â phledren lawn. Er enghraifft, gallech brofi'r ymdeimlad hwn wrth droi'r tap ymlaen, rhoi'r allwedd yn y drws neu wrth weld y toiled. Efallai y byddwch yn profi hyn pan fyddwch yn newid eich osgo. Efallai y byddwch hefyd yn pasio dŵr yn ystod rhyw, yn enwedig pan fyddwch yn cael orgasm. Efallai na fyddwch yn gallu oedi cyn mynd i'r toiled. Efallai y bydd wrin yn gollwng ar ôl yr awydd cryf i gyrraedd y toiled, a gall arwain at 'fethu cyrraedd mewn pryd' (anymataliaeth ysfa). Efallai y byddwch yn mynd i'r toiled yn aml yn ystod y dydd ac o bosibl gyda'r nos, gan basio ychydig bach o wrin yn unig bob tro.
  • Efallai y byddwch yn teimlo nad ydych yn gwagio eich pledren yn llwyr pan fyddwch yn pasio dŵr. Efallai y byddwch yn profi gollyngiadau na allwch eu rheoli ac o bosibl yn deffro'n wlyb yn y bore. Efallai y byddwch yn profi heintiau'r llwybr wrinol yn aml (anymataliaeth gorlif).
  • Efallai y byddwch yn teimlo nad oes gennych fawr ddim reolaeth dros basio dŵr a'ch bod yn gollwng cyfeintiau mawr o wrin trwy'r amser, ac efallai yn gollwng llai rhwng cyfnodau, gan gynnwys yn ystod y nos (anymataliaeth lwyr).
  • Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael problemau o ran pasio dŵr, megis dim ond yn gallu pasio llif araf, yr angen i straenio er mwyn pasio dŵr, neu stopio a dechrau wrth i chi basio dŵr. Efallai y byddwch yn profi ysfa i basio dŵr ond na fyddwch yn gallu gwneud hynny pan fyddwch yn cyrraedd y toiled, neu efallai y bydd yn cymryd amser hir i allu gwagio eich pledren.
  • Efallai y byddwch yn teimlo bod gennych broblemau ar ôl pasio dŵr, megis teimlo nad ydych wedi gwagio eich pledren yn llwyr neu eich bod yn pasio ychydig ddiferion o wrin ar ôl i chi feddwl eich bod wedi gorffen.
  • Efallai nad ydych yn gallu symud fel yr hoffech a bod gennych symudedd cyfyngedig. Gall hyn olygu eich bod yn ei chael yn anodd cyrraedd y toiled mewn pryd, neu na allwch ddadwisgo'n ddigon cyflym i gyrraedd y toiled heb ollwng.

Dylech ofyn am gyngor gan eich meddyg teulu a thrafod eich symptomau os byddwch yn profi unrhyw un o’r canlynol:

  • Os byddwch yn gweld gwaed yn eich wrin (ac nid yw hyn oherwydd eich mislif). Efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o waed yn eich wrin, neu efallai y bydd y gwaed yn troi eich wrin yn frown. Efallai na fydd y gwaed bob amser yn amlwg. Hyd yn oed os yw hyn yn mynd a dod, dylech ymweld â'ch meddyg teulu i drafod eich symptomau.
  • Angen pasio dŵr yn amlach nag sy'n arferol i chi.
  • Ysfa sydyn i basio dŵr pan nad yw hyn yn arferol i chi.
  • Profi ymdeimlad o losgi wrth basio dŵr.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: