Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y pelfis

Gall ymdopi â phroblemau iechyd y pelfis fod yn her i chi a'ch corff. Mae ein hyb iechyd a llesiant y pelfis yn dod â gwybodaeth ynghyd am gyflyrau iechyd y pelfis, cyngor a chymorth ynghylch rheoli eich symptomau, dewisiadau o ran triniaeth yn ogystal â dolenni ag adnoddau yn ymwneud â llesiant cyffredinol a ffyrdd iach o fyw.

Bydd y rhain yn eich cynorthwyo i gael mynediad at gyngor, cymorth a gwybodaeth i'ch helpu i reoli symptomau iechyd eich pelfis a'u heffaith.

A ydych o'r farn bod problem iechyd eich pelfis yn cyfyngu ar eich gallu i fyw'r bywyd yr hoffech ei fyw?

Gall problemau iechyd y pelfis gael effaith sylweddol ar y gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol. Gall ddod yn fwy anodd gwneud y pethau yr ydych yn eu mwynhau. Mae yna wasanaethau ar gael i helpu.

Iechyd y pelfis arbenigol

I'ch helpu i reoli eich symptomau a'ch pryderon, mae'r tabiau isod yn eich cysylltu â gwybodaeth a chyngor mwy manwl ynghylch problemau a chyflyrau penodol yn ymwneud ag iechyd y pelfis.

Ein nod yw helpu i drin a rheoli eich symptomau a'ch pryderon yn ymwneud ag iechyd y pelfis. Rydym hefyd yn cefnogi gofalwyr ac yn rhoi'r cymorth a’r cyngor y mae arnynt eu hangen. Mae ein gwasanaeth ar gyfer oedolion sy'n hŷn na 18 oed. Fodd bynnag, rydym wedi cynnwys cyngor a gwybodaeth sylfaenol ynghylch cyrchu gwasanaethau i blant ac oedolion ifanc.

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am lesiant cyffredinol, cymorth o ran ffordd o fyw a chyngor wrth aros am driniaeth (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: