Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Patholeg

Disgrifir patholeg fel ‘astudio afiechyd’ neu mewn geiriau eraill astudiaeth wyddonol o’r ffordd y mae pethau’n mynd o chwith yn y corff dynol. Yn amgylchedd yr ysbyty mae dwy brif adran patholeg: Clinigol ac Anatomeg.

Mae Patholeg Glinigol yn delio â phrofion biocemegol a microbiolegol a gyflawnir ar hylifau gwaed neu feinwe. Yn ogystal â sylweddau eraill sy'n cael eu secretu neu eu hysgarthu gan y corff fel sbwtwm neu wrin.

Mae Patholeg Anatomig yn ystyried annormaleddau strwythurol celloedd a meinweoedd y gellir eu canfod trwy archwiliad gros a microsgopig o feinweoedd.

Mae Patholeg Hywel Dda yn cynnwys disgyblaethau Gwyddorau Gwaed (Biocemeg a Haematoleg gan gynnwys Trallwyso Gwaed), Imiwnoleg, Microbioleg, gwasanaethau Fflebotomi, Profion Pwynt Gofal, Patholeg Cellog a gwasanaethau corffdy.

Nodwch: Darperir gwasanaethau microbioleg ym mhob ysbyty heblaw Llwynhelyg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd) 

 

Ble ydyn ni?

Sir Gaerfyrddin

Ysbyty Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 2AF
Wedi’i leoli ar lawr uchaf y prif adeilad ger y capel.

Gwyddorau Gwaed: 8.45am - 5.00pm

Patholeg Cellog: 8.30am - 5.00pm

Corffdy: 8.00am - 4.00pm

Rhif ffôn: 01267 235151

 

Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwyn Mawr, Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8QF
Wedi'i leoli ar lawr cyntaf yr ysbyty, ychydig oddi ar y prif goridor gyferbyn â'r bwyty.

Gwyddorau Gwaed: 8.45am - 5.00pm

Imiwnoleg: 9.00am - 5.00pm

Corffdy: 8.00am - 4.00pm

Rhif ffôn: 01554 756567

 

Ceredigion

Ysbyty Bronglais, Ffordd Caradoc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1ER
Wedi ei leoli ar lefel 3, bloc gwyrdd

Gwyddorau Gwaed: 9.00am - 5.00pm

Corffdy: 8.00am - 4.00pm

Rhif ffôn: 01970 623131

 

Sir Benfro

Ysbyty Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2PZ
Wedi'i leoli ar lawr gwaelod yr ysbyty, ychydig oddi ar y prif goridor (wrth ymyl y siop).

Gwyddorau Gwaed: 8.30am - 6.00pm

Microbioleg: 8.30am - 5.00pm

Corffdy: 8.00am - 4.00pm

Rhif ffôn: 01437 764545

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: