Disgrifir patholeg fel ‘astudio afiechyd’ neu mewn geiriau eraill astudiaeth wyddonol o’r ffordd y mae pethau’n mynd o chwith yn y corff dynol. Yn amgylchedd yr ysbyty mae dwy brif adran patholeg: Clinigol ac Anatomeg.
Mae Patholeg Glinigol yn delio â phrofion biocemegol a microbiolegol a gyflawnir ar hylifau gwaed neu feinwe. Yn ogystal â sylweddau eraill sy'n cael eu secretu neu eu hysgarthu gan y corff fel sbwtwm neu wrin.
Mae Patholeg Anatomig yn ystyried annormaleddau strwythurol celloedd a meinweoedd y gellir eu canfod trwy archwiliad gros a microsgopig o feinweoedd.
Mae Patholeg Hywel Dda yn cynnwys disgyblaethau Gwyddorau Gwaed (Biocemeg a Haematoleg gan gynnwys Trallwyso Gwaed), Imiwnoleg, Microbioleg, gwasanaethau Fflebotomi, Patholeg Cellog a gwasanaethau corffdy.
Ysbyty Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 2AF
Wedi'i leoli ar lawr cyntaf yr ysbyty, ychydig oddi ar y prif goridor gyferbyn â'r bwyty.
Gwyddorau Gwaed: 8.45am - 5.00pm
Patholeg Cellog: 8.30am - 5.00pm
Corffdy: 8.00am - 4.00pm
Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwyn Mawr, Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8QF
Wedi ei leoli ar lawr uchaf y prif adeilad ger y capel.
Gwyddorau Gwaed: 8.45am - 5.00pm
Imiwnoleg: 9.00am - 5.00pm
Corffdy: 8.00am - 4.00pm
Ysbyty Bronglais, Ffordd Caradoc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1ER
Wedi ei leoli ar lefel 3, bloc gwyrdd
Gwyddorau Gwaed: 9.00am - 5.00pm
Corffdy: 8.00am - 4.00pm
Ysbyty Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2PZ
Wedi'i leoli ar lawr gwaelod yr ysbyty, ychydig oddi ar y prif goridor (wrth ymyl y siop).
Gwyddorau Gwaed: 8.30am - 6.00pm
Microbioleg: 8.30am - 5.00pm
Corffdy: 8.00am - 4.00pm