Mae gennym dimau bach ymroddedig sy'n rhedeg y gwasanaeth niwroddatblygiadol, yn enwedig gwasanaethau diagnostig i gleifion ag ADHD neu Awtistiaeth. Mae ein cefnogaeth ar gael i gleifion a'u teuluoedd sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Efallai y byddwch yn dod ar draws amrywiaeth o eiriau a thermau yn y tudalennau hyn i ddisgrifio'r ystod o anhwylderau niwroddatblygiadol.
Rhestr termau:
- Mae anhwylderau niwroddatblygiadol (NDs) yn fathau o anhwylderau sy'n effeithio ar sut mae'r ymennydd yn gweithredu ac yn newid datblygiad niwrolegol. Mae'r anhwylderau'n achosi anawsterau mewn gweithrediad cymdeithasol, gwybyddol ac emosiynol.
- Mae niwroamrywiaeth yn air a ddefnyddir i ddisgrifio sut rydym ni i gyd fel bodau dynol yn unigryw ac yn profi'r byd mewn gwahanol ffyrdd.
- Mae niwroamrywiaeth yn air a ddefnyddir i gyfeirio at rywun sydd â ffyrdd llai nodweddiadol o feddwl, dysgu a deall gan arwain at gyflyrau fel awtistiaeth ac ADHD.
Gobeithiwn y byddwch yn gweld y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol.