Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth caplaniaeth

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth caplaniaeth 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, ac mae ar gael i bawb ni waeth beth fo’u crefydd neu gred.

Bendithio neu cyflwyno eich babi

Gall eich babi gael ei fendithio gan gaplan yr ysbyty; gall hyn ddigwydd gyda chi'n bresennol neu heboch, bydd yn cael ei wneud yn aml cyn i chi adael y ward, a chroesawn unrhyw aelodau o’r teulu yr hoffech iddynt fod yn bresennol.

Llyfr coffa Bronglais

Efallai yr hoffech ysgrifennu enw eich babi yn 'Llyfr Coffa Babanod' yr ysbyty, sydd wedi'i leoli ar ward Gwenllian.

Heather Evans, Caplan yr Ysbyty, Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ffordd Caradog, Aberystwyth, SY23 1ER.

Rhif ffôn: 01970 623131 trwy switsfwrdd Ysbyty Cyffredinol Bronglais

E-bost: Heather.Evans2@wales.nhs.uk

Llyfr coffa Glangwili

Efallai yr hoffech ysgrifennu enw eich babi yn 'Llyfr Coffa Babanod' yr ysbyty sydd wedi'i leoli yn yr ystafell dawel/y capel.

Euryl Howells – Uwch-gaplan, Swyddfa’r Gaplaniaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, SA31 2AF.

Rhif ffôn: 01267 227563

E-bost: Euryl.Howells2@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: