Os cawsoch eich babi mewn uned famolaeth, hoffem ni yn y tîm profedigaeth estyn ein cydymdeimlad i chi a'ch teulu ar yr adeg hynod o drist ac anodd hon. Yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf, bydd cymorth parhaus ar gael i chi, a fydd yn cael ei addasu i ddiwallu eich anghenion unigol.
Byddwn yn eich trin chi a'ch teulu â pharch a gonestrwydd, gan sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth drwy gydol y cyfnod i'ch galluogi i alaru am eich babi ag urddas.
Mae gennym dair Bydwraig Profedigaeth Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae gennym oriau contract gwahanol. Fodd bynnag, mae cymorth profedigaeth ar gael bum niwrnod yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm (ac eithrio gwyliau banc):
Heulwen Harden – 07966 212742
Anwen Evans – 07890 631022
Abi O'Connor – 07870 392636
E-bost – Bereavementmaternity.HDD@wales.nhs.uk
(Bydd negeseuon ffôn symudol yn cael eu dychwelyd ar ddiwrnod gwaith nesaf y fydwraig; os oes brys cysylltwch â'ch bydwraig gymunedol neu eich uned famolaeth leol. Os nad yw eich ymholiad yn un brys ond yr hoffech gael rhagor o gymorth profedigaeth ac nad ydych yn gallu cysylltu â'ch bydwraig profedigaeth benodol, mae croeso i chi gysylltu â bydwraig profedigaeth arall.)
- Bydd bydwraig profedigaeth benodol yn cael ei phennu i chi, fodd bynnag efallai na fydd ar gael bob amser oherwydd ymrwymiadau gwaith/gwyliau blynyddol, ond bydd aelod o'r tîm ar gael i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi;
- Byddwn yn anelu i gwrdd â chi tra byddwch yn yr ysbyty, lle bo modd;
- Byddwn yn eich tywys, eich cefnogi a'ch cynorthwyo i wneud penderfyniadau yn ystod yr adeg anodd hon. Byddwn yn mynd ar drywydd unrhyw ganlyniadau ymchwiliadau ac yn trefnu cyfarfod dilynol/PMRT (gweler isod am fanylion) â'ch Meddyg Ymgynghorol penodedig i drafod canfyddiadau'r canlyniadau. Ein nod yw rhoi atebion i chi ynghylch eich babi a gollwyd yn ystod beichiogrwydd, ond nid yw hyn bob amser yn bosibl;
- Rydym yn cynnig cymorth i chi a’ch teulu ar ôl i chi fynd adref; gall hyn gynnwys ymweliadau â'ch cartref, cyswllt dros y ffôn neu gyfuniad o’r ddau. Gall y camau dilynol hyn barhau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yn dibynnu ar eich dymuniadau;
- Byddwn yn eich rhyddhau o'r gwasanaeth profedigaeth ar ôl y cyfarfod dilynol/PMRT, fodd bynnag rydym ar gael dros y ffôn os byddwch yn teimlo bod arnoch angen cymorth/arweiniad ychwanegol ar unrhyw adeg;
- Nid ydym yn gwnselwyr hyfforddedig ond gallwn helpu i'ch atgyfeirio a'ch cyfeirio at wasanaethau cymorth a chwnsela ychwanegol.