Byddwn yn eich gwahodd yn ôl i'r ysbyty am apwyntiad gyda'r obstetrydd ymgynghorol (meddyg arbenigol yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth). Bydd yn trafod eich beichiogrwydd a chanlyniadau ymchwiliadau, gan gynnwys y post-mortem os ydych wedi cydsynio i un. Gall canlyniadau rhai ymchwiliadau gymryd hyd at 14-20 wythnos i ddychwelyd.
Cyn gynted ag y bydd y meddyg ymgynghorol yn cael eich canlyniadau bydd y fydwraig arbenigol profedigaeth yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i drafod y canlyniadau. Bydd y fydwraig sy’n arbenigo mewn profedigaeth hefyd yn bresennol yn y cyfarfod i roi cymorth i chi a’ch teulu. Mae hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau, felly ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych, oherwydd mae'n bosibl y gallent gael eu hanghofio yn ystod yr ymgynghoriad.
Efallai y byddwch hefyd am drafod beichiogrwydd yn y dyfodol a'r cymorth sydd ar gael i chi.