Mae'r wybodaeth hon ar gyfer rhieni y mae eu babi wedi marw cyn, yn ystod neu hyd at bedair wythnos ar ôl genedigaeth.
Pan fydd babi’n marw cyn, yn ystod neu ar ôl genedigaeth, bydd yr ysbyty lle’r oedd y fam a’r babi yn derbyn gofal yn adolygu’r gofal a gafodd y fam a’r babi. Bydd y tîm clinigol yn edrych trwy nodiadau ysbyty’r fam a’r babi i ddeall y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth y babi. Mae'r adolygiad yn rhan o ofal safonol y GIG y dylid ei ddarparu i bob teulu ar ôl marwolaeth fel bod gan rieni mewn profedigaeth gymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch pam y bu farw eu babi.
Rheswm pwysig arall y mae ysbytai’n cynnal adolygiadau yw er mwyn i ysbytai allu dysgu o’r hyn a ddigwyddodd er mwyn gwella gofal ac atal, os yn bosibl, farwolaeth babanod eraill yn y dyfodol.Fel rhiant mewn profedigaeth bydd y tîm risg clinigol a llywodraethu yn cysylltu â chi i drafod y broses ac yn cael cyfle i ofyn cwestiynau neu ddarparu gwybodaeth am eich gofal. Unwaith y bydd yr adolygiad wedi digwydd byddwch yn cael cynnig apwyntiad i weld eich ymgynghorydd i drafod y canfyddiadau.