Er bod beichiogrwydd a chael babi yn fwy diogel 'nawr nag erioed o'r blaen, yn anffodus mae rhai digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Weithiau nid oes i feichiogrwydd y diweddglo hapus yr oeddem wedi'i gynllunio a gobeithio amdano. Mae bob amser yn gyfnod trist ac anodd iawn pan fydd teuluoedd yn wynebu colled annisgwyl fel hyn, ac mae’n gadael rhieni’n teimlo’n ddiamddiffyn, yn flin ac wedi drysu.
Yn anffodus, ni allwn ddileu poen colled, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch cefnogi chi fel teulu ar yr adeg anodd hon.
Rydym wedi cydnabod yr effaith enfawr y gall hyn ei chael ar unrhyw deulu, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth i bob teulu. Felly, mae gennym fydwragedd profedigaeth pwrpasol i'ch cefnogi trwy'r cyfnod anodd hwn os cawsoch eich babi mewn uned famolaeth. Os cawsoch eich babi ar ward wahanol, mae yna nifer o elusennau y gallwch gysylltu â nhw ar waelod y dudalen hon.