Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd Graves, carbimasol a beichiogi. A all y salwch dychwelyd?

Cefais ddiagnosis o glefyd Graves ychydig o flynyddoedd yn ôl. Ar ôl cymryd carbimasol am dros flwyddyn, roeddwn yn euthyroid ac yn gallu rhoi'r gorau i'r driniaeth. Rwyf 'nawr yn ceisio beichiogi ac nid oeddwn yn siŵr a ydw i bellach yn gwbl glir rhag hyperthyroidedd neu a allai'r salwch ddychwelyd?

Dylech gael profion gweithrediad y thyroid yn ystod tri mis cyntaf y beichiogrwydd, yn ogystal â phrofion i wirio gwrthgyrff derbynyddion hormon ysgogi'r thyroid (TRAb). Hyd yn oed os ydych yn euthyroid, os yw'r TRAb yn bositif dylech gael eich atgyfeirio at glinig cynenedigol lleol yn ystod y beichiogrwydd. Mae hwn yn fesur rhagofalus, ond gan fod gwrthgyrff derbynnydd thyroid yn croesi'r brych argymhellir monitro yn ystod beichiogrwydd.

Mae yna risg y bydd clefyd Graves yn dychwelyd cyn beichiogi neu'n gynnar yn ystod beichiogrwydd, neu yn y cyfnod ôl-enedigol. Dylid gwirio profion gweithrediad y thyroid os byddwch yn datblygu symptomau hyperthyroidedd unrhyw bryd neu yn gynnar yn ystod eich beichiogrwydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: