Neidio i'r prif gynnwy

Eich gofal yn ystod beichiogrwydd

Os ydych yn ordew yn ystod beichiogrwydd, byddwch yn cael cynnig prawf ar gyfer diabetes yn ystod beichiogrwydd.

Efallai y cewch eich cyfeirio at anesthetydd hefyd i drafod materion fel lleddfu poen wrth esgor. Rydych chi'n fwy tebygol o gael genedigaeth offerynnol (ventouse neu gefeiliau neu enedigaeth cesaraidd), a gall fod yn anodd rhoi epidwral.

Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg am eich opsiynau geni. Gofynnwch a oes unrhyw bryderon diogelwch i chi ynghylch rhoi genedigaeth gartref neu mewn pwll geni.

Efallai y cewch eich cynghori i roi genedigaeth mewn ysbyty lle mae mynediad hawdd at ofal meddygol os bydd ei angen arnoch.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: