Mae'n bwysig bwyta deiet iach a chytbwys a gwneud rhywfaint o weithgaredd corfforol bob dydd. Dylid cynnig atgyfeiriad i chi at ddeietegydd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall am gyngor ar fwyta'n iach a gweithgaredd corfforol. Ni fydd bod yn gorfforol egnïol yn ystod beichiogrwydd yn niweidio'ch babi.
Ceisiwch fwyta'n iach (gan gynnwys gwybod pa fwydydd i'w hosgoi yn ystod beichiogrwydd) a gwneud gweithgareddau fel cerdded neu nofio.
Os nad oeddech yn actif cyn beichiogrwydd, mae'n syniad da ymgynghori â'ch bydwraig neu'ch meddyg cyn dechrau cynllun ymarfer corff newydd pan fyddwch yn feichiog.