Y ffordd fwyaf diogel o fwydo'ch babi yw llaeth fformiwla. Os caiff eich HIV ei reoli'n dda gyda meddyginiaeth gwrth-retrofeirysol, mae'r risg o drosglwyddo'r firws i'ch babi trwy fwydo ar y fron yn isel. Gall eich meddyg teulu neu dîm HIV eich helpu i ddewis sut yr hoffech fwydo eich babi.
Bydd eich babi’n cael profion gwaed yn yr wythnosau a’r misoedd ar ôl y geni i wirio nad yw’r firws ganddo. Os ydych chi'n bwydo ar y fron, byddwch chi a'ch babi yn cael y profion hyn yn amlach.