Mae'r risg o niwed i'ch babi yn arbennig o uchel gyda'r meddyginiaethau falproad, sodiwm falproig ac asid falproig.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am asid falproig - Saesneg yn unig (agor mewn dolen newydd).
Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth falproad ac yn bwriadu beichiogi neu ddarganfod eich bod yn feichiog, peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth. Ewch i weld meddyg teulu neu niwrolegydd ar unwaith i drafod eich risg uwch ac ai dyma'r driniaeth orau i chi o hyd.
Ni ddylai pobl sy'n byw gydag epilepsi sy'n gallu beichiogi gael meddyginiaeth falproad oni bai eu bod wedi cofrestru ar raglen atal beichiogrwydd. Mae hwn wedi’i gynllunio i wneud yn siŵr eu bod yn deall:
Fel rhan o raglen atal beichiogrwydd, bydd angen i chi:
Efallai y bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at wasanaethau atal cenhedlu.
Bydd eich meddyg yn rhoi taflen wybodaeth i chi i egluro mwy am y risgiau a sut i'w hosgoi. Cadwch y wybodaeth hon rhag ofn y bydd angen i chi gyfeirio ati eto.