Byddwch yn cael cynnig sgrinio llygaid diabetig rheolaidd yn ystod eich beichiogrwydd. Mae hyn er mwyn gwirio am arwyddion o glefyd llygaid diabetig (retinopathi diabetig).
Mae sgrinio'n bwysig iawn pan fyddwch chi'n feichiog oherwydd mae'r risg o broblemau llygaid difrifol yn fwy yn ystod beichiogrwydd.
Mae modd trin retinopathi diabetig, yn enwedig os caiff ei ddal yn gynnar.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chael profion sgrinio rheolaidd, dylech ddweud wrth y clinigwr sy'n gofalu am eich gofal diabetes yn ystod beichiogrwydd.