Os oes gennych ddiabetes, argymhellir yn gryf eich bod yn rhoi genedigaeth mewn ysbyty gyda chymorth tîm mamolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol.
Efallai y bydd eich meddygon yn argymell dechrau eich cyfnod esgor yn gynnar (wedi'i gymell). Mae hyn oherwydd y gallai fod risg uwch o gymhlethdodau i chi neu eich babi os bydd eich beichiogrwydd yn parhau am gyfnod rhy hir.
Os yw eich babi yn fwy na'r disgwyl, efallai y bydd eich meddygon yn trafod eich opsiynau ar gyfer y geni ac efallai y byddant yn awgrymu genedigaeth cesaraidd wedi'i chynllunio.
Dylid mesur y glwcos yn eich gwaed bob awr yn ystod y cyfnod esgor a geni. Efallai y byddwch yn cael diferiad yn eich braich gydag inswlin a glwcos os oes problemau.