Os oes gennych ddiabetes a'ch bod yn ceisio beichiogi, dylech gymryd pum miligram (mg) o asid ffolig bob dydd (a hyd nes y byddwch yn feichiog am 12 wythnos). Bydd yn rhaid i feddyg ragnodi hyn, oherwydd ni allwch brynu tabledi pum miligram o fferyllfa neu siop heb bresgripsiwn.
Mae cymryd asid ffolig yn helpu i atal eich babi rhag datblygu namau geni, fel spina bifida.