Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth a hunanreolaeth

Bydd y driniaeth a gewch yn dibynnu ar ba gyflwr sydd gennych. Bydd eich cardiolegydd yn rhoi cynllun gofal cyn geni wedi'i deilwra i chi.

Gall hyn olygu bod yn rhaid i chi newid y meddyginiaethau rydych yn eu cymryd. Er enghraifft, ni chaiff atalyddion ACE (grŵp o feddyginiaethau a ddefnyddir i drin methiant y galon) eu hargymell yn ystod beichiogrwydd. Bydd eich arbenigwr yn trafod hyn gyda chi.

Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth heb siarad â'ch arbenigwr yn gyntaf.

Yn ystod eich beichiogrwydd, dilynwch unrhyw gyngor y mae eich arbenigwr yn ei roi i chi ynglŷn â rheoli eich cyflwr. Mae ymarfer corff effaith isel, fel nofio a cherdded, fel arfer yn syniad da i'ch cadw'n heini, ond siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg bob amser cyn dechrau unrhyw raglen ymarfer corff newydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: