Byddwch yn cael eich cyfeirio at uned famolaeth ysbyty ar gyfer gofal tîm. Bydd y tîm yn cynnwys cardiolegydd, obstetrydd a bydwraig.
Efallai y gallwch fynychu clinig beichiogrwydd cardiaidd arbennig os oes un yn eich ardal. Gofynnwch i'ch meddyg teulu am fanylion.
Bydd cardiolegydd clefyd cynhenid y galon yn eich asesu ac yn cynllunio eich gofal gyda chi. Mae'n anodd rhagweld effaith clefyd cynhenid y galon ar eich beichiogrwydd oherwydd mae pob achos yn wahanol.
Yr unig ffordd i amcangyfrif eich risg ac i benderfynu pa gymhlethdodau, os o gwbl, y gallech eu cael yn ystod beichiogrwydd yw cael asesiad gofalus gan arbenigwr.
Mae'n bwysig gwybod pa broblemau a allai godi. Yn dibynnu ar ba fath o glefyd cynhenid y galon sydd gennych, efallai y byddwch yn datblygu hylif ar yr ysgyfaint, methiant y galon neu arrythmia (curiad calon afreolaidd a/neu gyflym).