Neidio i'r prif gynnwy

Triniaethau Asthma a Beichiogrwydd

Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth asthma – siaradwch â meddyg teulu, nyrs asthma neu arbenigwr yn gyntaf.

Mae'r rhan fwyaf o feddyginiaethau asthma yn ddiogel i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd ac, os caiff eich asthma ei reoli'n dda, nid oes fawr ddim risg i chi neu'ch babi.

Dylech barhau i gymryd eich triniaethau asthma rhagnodedig drwy gydol eich beichiogrwydd. Oni bai bod eich asthma yn gwaethygu, gall eich triniaeth aros yr un fath ag o'r blaen.

Gall eich symptomau waethygu os byddwch yn rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth. Gall hyn achosi risg i'ch iechyd eich hun a chynyddu'r risg y bydd eich babi'n cael pwysau geni isel.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: