Neidio i'r prif gynnwy

Hunangymorth wrth esgor

Byddwch yn debygol o deimlo’n fwy hamddenol wrth esgor ac mewn gwell sefyllfa i ymdopi â’r boen os byddwch yn:

  • dysgu am y cyfnod esgor – gall hyn wneud i chi deimlo bod gennych fwy o reolaeth, a bydd arnoch lai o ofn ynghylch yr hyn sy'n mynd i ddigwydd; siarad â'ch bydwraig neu eich meddyg, yn gofyn cwestiynau iddynt, ac yn mynd i ddosbarthiadau cyn geni
  • dysgu sut i ymlacio, yn peidio â chynhyrfu ac yn anadlu'n ddwfn
  • cadw i symud – gall eich ystum wneud gwahaniaeth, felly ceisiwch benlinio, cerdded o gwmpas, neu siglo'n ôl ac ymlaen
  • dod â phartner, ffrind neu berthynas i’ch cefnogi yn ystod y cyfnod esgor. Ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych bartner – bydd eich bydwraig yn rhoi i chi’r holl gymorth y bydd arnoch ei angen
  • gofyn i'ch partner eich tylino – er efallai na fyddwch am i neb gyffwrdd â chi
  • cael bàth
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: