Mae hefyd yn ddefnyddiol i'r sawl sy'n mynd i fod yn gwmni i chi yn ystod eich esgoriad wybod am yr opsiynau gwahanol, yn ogystal â'r modd y gall fod o gymorth i chi.
Gofynnwch i'ch bydwraig neu eich meddyg egluro'r hyn sydd ar gael fel y gallwch benderfynu beth sydd orau i chi.
Nodwch eich dymuniadau yn eich dewisiadau geni, ond cofiwch ei bod yn ofynnol i chi fod â meddwl agored. Mae'n bosibl y bydd arnoch eisiau mwy o feddyginiaethau lleddfu poen nag yr oeddech wedi'i gynllunio, neu efallai y bydd eich meddyg neu eich bydwraig yn awgrymu meddyginiaeth lleddfu poen fwy effeithiol i'ch helpu gyda'ch genedigaeth. Cliciwch am rhagor o wybodaeth am ymdopi â phoenau esgor yma (yn agor mewn dolen newydd).
Mae rhai astudiaethau'n awgrymu bod therapïau cyflenwol yn helpu menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth i deimlo bod ganddynt reolaeth dros eu cyfnod esgor, a'u bod yn defnyddio llai o feddyginiaeth i leihau'r boen. Os ydych yn ystyried defnyddio'r rhain, mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor gan rywun sydd wedi'i hyfforddi yn y therapi hwnnw. Prin yw'r unedau mamolaeth sy’n darparu’r gwasanaethau hyn yn y GIG, felly byddai'n ofynnol i chi ddod o hyd i therapydd cymwysedig cyn dechrau esgor.