Neidio i'r prif gynnwy

Tylino ac adweitheg

Mae tylino ac adweitheg yn seiliedig ar y syniad bod yna gyswllt rhwng mannau penodol ar eich corff, eich dwylo a'ch traed â mannau ar weddill eich corff. Nid wyddom sut y mae hyn yn gweithio, ond mae'n bosibl ei fod yn gweithio mewn modd tebyg i aciwbigo (gweler isod). Mae adweithegydd fel arfer yn tylino mannau ar eich traed sy'n gysylltiedig â'r rhannau o'ch corff sy'n boenus wrth esgor. Mae'n anodd cymharu'r astudiaethau yn y maes hwn oherwydd amrywioldeb ac ehangder y technegau a ddefnyddir, ond, yn gyffredinol maent yn lleihau pryder yn ystod y cyfnod esgor a gallant leihau dwyster y poenau esgor.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: