Neidio i'r prif gynnwy

Pigiadau pethidin wrth esgor

Pigiad o feddyginiaeth o'r enw pethidin i'ch clun neu eich ffolen yw hwn, i leddfu poen. Gall hefyd eich helpu i ymlacio.

Mae'n cymryd tua 20 munud i'r pethidin weithio ar ôl i'r pigiad gael ei roi. Mae'r effeithiau'n para rhwng 2 a 4 awr, felly ni fydd yn cael ei argymell os ydych yn agosáu at y cam gwthio (yr ail gam) yn y cyfnod esgor.

Sgileffeithiau

Mae yna rai sgileffeithiau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt:

  • gall wneud i chi deimlo'n chwil, yn sâl ac yn anghofus
  • os rhoddir pethidin neu ddiamorffin yn rhy agos at yr amser geni, gallant effeithio ar anadlu'r baban – os bydd hyn yn digwydd, rhoddir meddyginiaeth arall i wrthdroi'r effaith
  • gall y meddyginiaethau hyn ymyrryd â ffid gyntaf y baban.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: