Mae Entonox yn nwy sy'n cynnwys 50% ocsid nitrus a 50% ocsigen. Fe'i gelwir weithiau yn nwy ac aer.
Chi a fydd yn rheoli faint o Entonox y byddwch yn ei ddefnyddio, ond i gael yr effaith orau mae'n bwysig amseru'n gywir. Dylech ddechrau anadlu Entonox cyn gynted ag y byddwch yn teimlo bod cyfangiad yn cychwyn, fel eich bod yn cael yr effaith lawn pan fydd y boen ar ei gwaethaf. Ni ddylech ei ddefnyddio rhwng cyfangiadau nac am gyfnodau hir gan y gall achosi pinnau bach ar eich croen a gwneud i chi deimlo'n benysgafn.