Math o anesthetig lleol yw epidwral. Mae'n fferru'r nerfau sy'n cario'r ysgogiadau poen o'r llwybr geni i'r ymennydd. Ni ddylai achosi i chi fod yn sâl nac yn gysglyd.
Yn y mwyafrif o achosion, mae epidwral yn lleddfu'r boen yn llwyr. Gall fod yn ddefnyddiol os yw eich cyfnod esgor yn hir neu'n boenus iawn.
Anesthetydd yw'r unig berson sy'n gallu rhoi epidwral, felly ni fydd ar gael i chi gartref. Os credwch y byddwch am gael un, gwiriwch a oes anesthetyddion ar gael bob amser yn eich ysbyty.
Mae faint y gallwch symud eich coesau ar ôl epidwral yn dibynnu ar yr anesthetig lleol a ddefnyddir. Mae rhai ysbytai'n cynnig epidwral "symudol", sy'n golygu y gallwch gerdded o gwmpas.
Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu ei bod yn ofynnol monitro cyfradd curiad calon y baban o bell (trwy delemetreg).
Gall epidwral leddfu poen yn dda iawn, ond nid yw bob amser yn 100% effeithiol yn ystod y cyfnod esgor. Mae Cymdeithas yr Anesthetyddion Obstetrig yn amcangyfrif bod 1 o bob 10 sy'n cael epidwral yn ystod y cyfnod esgor yn gorfod defnyddio dulliau eraill i leddfu'r boen.
I gael epidwral:
Mae yna rai sgileffeithiau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.
Gall epidwral wneud i'ch coesau deimlo'n drwm, yn dibynnu ar yr anesthetig lleol a ddefnyddir.
Gall eich pwysedd gwaed ostwng (isbwysedd), ond mae hyn yn anghyffredin gan fod yr hylif a roddir trwy'r diferwr yn eich braich yn helpu i gynnal pwysedd gwaed da.
Gall epidwral ymestyn ail gam y cyfnod esgor. Os na allwch deimlo eich cyfangiadau mwyach, bydd yn rhaid i'r fydwraig ddweud wrthych pryd i wthio. Mae hyn yn golygu y bydd angen gefeiliau neu ventouse i helpu genedigaeth eich baban (genedigaeth â gefeiliau/ventouse).
Pan fyddwch yn cael epidwral, bydd eich bydwraig neu eich meddyg yn aros yn hirach i ben y baban ddod i lawr (cyn i chi ddechrau gwthio), a hynny ar yr amod nad yw'r baban yn amlygu unrhyw arwyddion o drallod. Mae hyn yn lleihau'r tebygrwydd y bydd yn rhaid i chi roi genedigaeth â gefeiliau/ventouse. Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd pasio wrin o ganlyniad i'r epidwral. Os felly, efallai y bydd tiwb bach o'r enw cathetr yn cael ei roi yn eich pledren i'ch helpu.
Mae'n bosibl y cewch gur pen ar ôl epidwral. Mae hyn yn digwydd yn oddeutu 1 o bob 100 o achosion, a gellir ei drin.
Efallai y bydd eich cefn braidd yn boenus am ddiwrnod neu ddau, ond nid yw epidwral yn achosi poen cefn hirdymor.
Mae'n bosibl y byddwch yn teimlo pinnau bach i lawr un goes ar ôl cael baban. Mae hyn yn digwydd yn oddeutu 1 o bob 2,000 o achosion. Mae hyn yn fwy tebygol o fod o ganlyniad i'r enedigaeth ei hun yn hytrach na'r epidwral.