Neidio i'r prif gynnwy

Trydydd cam y cyfnod esgor (geni eich brych)

Person beichiog

Mae'r brych yn cael ei eni ar ôl i'ch baban gael ei eni. Hwn yw trydydd cam y cyfnod esgor. Dylai eich bydwraig siarad â chi yn ystod eich beichiogrwydd am y ddau opsiwn sydd ar gyfer geni'r brych, ynghyd â manteision ac anfanteision pob un.

Cliciwch am fwy o wybodaeth am y trydydd cam y cyfnod esgor yma (yn agor mewn dolen newydd).

Rheolaeth weithredol 

Gelwir eich opsiwn cyntaf yn rheolaeth weithredol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael pigiad o gyffur o'r enw ocsitosin yn eich morddwyd wrth i chi roi genedigaeth. Mae hyn yn peri i'ch croth gyfangu fel bod y brych yn dod yn rhydd o wal y groth, a byddwch fel arfer yn geni'r brych cyn pen 30 munud. Gall y pigiad wneud i chi deimlo'n sâl neu beri i chi chwydu, ond mae hefyd yn lleihau eich risg o waedu trwm.

Rheolaeth ffisiolegol

Mae hyn yn golygu y byddwch yn geni'r brych heb unrhyw gyffuriau, a all gymryd hyd at awr. Bydd eich meddyg neu eich bydwraig yn eich cynghori i ddewis rheolaeth weithredol i eni'r brych, ond eich penderfyniad chi yw hyn. Os byddwch yn dewis peidio â chael y pigiad ocsitosin a bod eich brych heb ei eni cyn pen yr awr, neu os byddwch wedi colli llawer o waed, fe'ch cynghorir i gymryd y pigiad. Gallwch hefyd, os dymunwch, newid eich meddwl a chael y pigiad unrhyw bryd.

Os na fydd y brych wedi'i eni cyn pen awr i enedigaeth eich baban yn achos rheolaeth ffisiolegol, neu cyn pen 30 munud i'r enedigaeth yn achos rheolaeth weithredol, mae'n bosibl y byddwch yn cael diagnosis o frych cadwedig. Rhaid i hyn gael ei drin yn gynnar i atal cymhlethdodau. Nid yw brych cadwedig yn gyffredin iawn.

Genedigaeth Gesaraidd

Os byddwch yn cael genedigaeth Gesaraidd, bydd y brych hefyd yn cael ei eni ar ôl genedigaeth eich baban. 

Gallwch nodi eich dewis arfaethedig yn eich rhestr dewisiadau geni. 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: