Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gallaf amddiffyn fy maban rhag Gwaedu Diffyg Fitamin K (VKDB)?

Rydym yn argymell bod pob baban yn cael pigiad yng nghyhyr y glun yn ystod ei diwrnod cyntaf ei fywyd gan fod hyn, i bob pwrpas, yn atal VKDB ym mron pob baban. Os byddwch yn penderfynu nad ydych yn dymuno i'ch baban gael unrhyw fath o atchwanegiad fitamin K, mae'n bwysig eich bod yn trafod hyn â'ch meddyg teulu neu eich bydwraig gymunedol, a gallant roi gwybod i chi beth i'w wneud os bydd symptomau VKDB yn ymddangos.


Mae'r paratoad cyfredol a ddefnyddir i roi pigiad mewngyhyrol, yn ogystal â fitamin K trwy'r geg, yn cael ei baratoi o ffynhonnell sy'n deillio o anifeiliaid (ffynhonnell fuchaidd). Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynnyrch fitamin K arall wedi cael ei drwyddedu ac ar gael i'w ddefnyddio fel dewis arall. Os oes gennych resymau pam na fyddech yn dymuno i'ch baban gael cynnyrch sy'n deillio o anifeiliaid, ni allwn gynnig paratoad amgen ar hyn o bryd gan nad oes unrhyw gynnyrch trwyddedig ar gael.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: