Neidio i'r prif gynnwy

Pam y mae ar fy maban angen fitamin K?

O gymharu ag oedolion, mae'r lefelau fitamin K yn isel iawn yng nghorff pob baban. Heb fitamin K, ni all gwaed geulo fel y dylai, a gall y baban ddatblygu tuedd i waedu'n hawdd. Mewn rhai achosion mae hyn yn arwain at waedu difrifol o'r stumog, y bogail neu'r coluddyn (y perfedd), ac, yn ambell faban, at waedu yn yr ymennydd. Gelwir y cyflwr hwn yn Waedu Diffyg Fitamin K (VKDB).


Yn achos babanod nad ydynt yn cael fitamin K, mae astudiaethau'n dangos bod y risg y bydd y baban yn datblygu VKDB yn un baban ym mhob 10,000. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl rhagweld pa fabanod sydd mewn perygl o waedu. Gwyddom y gellir lleihau'r achosion o'r cyflwr hwn, a allai fod yn beryglus, trwy roi fitamin K i'r baban ar ôl ei eni. 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: