Neidio i'r prif gynnwy

Ysgubo'r pilenni

Cyn cymell y geni, bydd proses o'r enw ysgubo'r pilenni yn cael ei gynnig i chi, proses a elwir hefyd yn ysgubiad serfigol ac sy'n ysgogi'r cyfnod esgor.

I ysgubo'r pilenni, bydd eich bydwraig neu eich meddyg yn ysgubo bys o amgylch gwddf eich croth yn ystod archwiliad mewnol.

Dylai'r weithred hon wahanu pilenni'r cwd amniotig sy'n amgylchynu eich baban oddi wrth wddf eich croth. Mae'r gwahaniad hwn yn rhyddhau hormonau (prostaglandinau), a all ysgogi eich cyfnod esgor.

Nid yw'r weithred o ysgubo'r pilenni yn brifo ond gallwch ddisgwyl rhywfaint o anghysur neu ychydig o waedu wedyn.

Os na fydd y cyfnod esgor yn dechrau ar ôl ysgubo'r pilenni, cynigir cymell y geni i chi.

Mae'r broses cymell y geni yn cael ei chynnal mewn uned famolaeth ysbyty bob tro. Bydd bydwragedd yn gofalu amdanoch a bydd meddygon ar gael os bydd arnoch angen eu cymorth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: