Neidio i'r prif gynnwy

Os bydd eich dŵr yn torri'n gynnar

Os bydd eich dŵr yn torri fwy na 24 awr cyn i'r cyfnod esgor ddechrau, mae yna risg uwch o haint i chi a'ch baban.

Os bydd eich dŵr yn torri ar ôl 34 wythnos, bydd gennych ddewis rhwng cymell y geni neu reoli'r beichiogrwydd.

Ystyr rheoli'r beichiogrwydd yw bod eich gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn monitro eich cyflwr a llesiant eich baban, a gall eich beichiogrwydd ddatblygu'n naturiol cyhyd â bod hynny'n ddiogel i'r ddau ohonoch.

Dylai eich bydwraig neu eich meddyg drafod eich opsiynau â chi cyn i chi wneud penderfyniad.

Dylent hefyd roi gwybod i chi am y cyfleusterau ysbyty sydd yn eich ardal ar gyfer darparu gofal arbennig i fabanod newydd-anedig.

Os caiff eich baban ei eni cyn 37 wythnos, gallai fod yn agored i broblemau sy'n gysylltiedig â bod yn gynamserol.

Os bydd eich dŵr yn torri cyn 34 wythnos, ni fydd cymell y geni yn cael ei gynnig i chi oni bai fod yna ffactorau eraill yn bodoli sy'n awgrymu mai dyma'r peth gorau ar eich cyfer chi a'ch baban.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: