Neidio i'r prif gynnwy

A oes yna bosibilrwydd y bydd y broses cymell y geni yn cael ei hoedi?

Yn anffodus, pan fydd yr uned yn brysur iawn, mae'n bosibl y bydd angen i ni ohirio'r broses cymell y geni, felly dylech fod yn ymwybodol nad yw eich dyddiad cymell y geni yn cael ei warantu. Rydym yn deall y gall hyn achosi llawer o siom; fodd bynnag, eich diogelwch chi a'ch baban sydd bwysicaf, ac felly, weithiau, y penderfyniad hwn yw'r opsiwn mwyaf diogel oherwydd y pwysau ar yr uned.

Gofynnwn i chi ffonio'r ward ar fore'r broses cymell y geni i wneud yn siŵr bod gennym wely ar eich cyfer. Yna byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd i ddod i mewn, neu a fydd yna unrhyw oedi. Nid yw hyn yn digwydd yn aml iawn, ond pan fydd yn digwydd, bydd y meddyg ymgynghorol ar alwad yn edrych ar bob achos unigol ac yn blaenoriaethu'r sawl y mae angen iddynt ddod i mewn gyntaf.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: