Neidio i'r prif gynnwy

Cymell y geni

person beichiog yn gorwedd yn gwely

Mae genedigaeth sy'n cael ei chymell yn un sy'n cael ei chychwyn mewn modd artiffisial. Bob blwyddyn, mae u o bob pump esgoriad yn y DU yn cael ei gymell.

Weithiau gall yr esgoriad gael ei gymell os yw eich baban yn hwyr yn cael ei eni, neu os oes unrhyw risg i'ch iechyd chi neu iechyd eich baban.

Gallai'r risg hon fod yn ganlyniad i gyflwr iechyd sydd gennych, megis pwysedd gwaed uchel, neu am nad yw eich baban yn tyfu.

Bydd cymell y geni fel arfer yn cael ei gynllunio ymlaen llaw. Byddwch yn gallu trafod y manteision a'r anfanteision â'ch meddyg a'ch bydwraig, a chanfod pam y maent yn meddwl y dylid cymell y geni.

Chi sydd i ddewis pa un a fyddwch am i'r enedigaeth gael ei chymell ai peidio.

Os bydd eich beichiogrwydd yn para mwy na 41 wythnos a'ch bod yn penderfynu peidio â chymell y geni, dylai rhagor o brosesau monitro gael eu cynnig i chi i wirio llesiant eich baban.

Y rhesymau pam y gallai'r geni gael ei gymell

Efallai y cewch ei cymell os yw'r baban yn hwyr yn cael ei eni, os yw eich dŵr wedi torri, os oes gennych chi neu eich baban broblem iechyd. 

Gwybodaeth am gymell y geni

Mae yna lawer o resymau pam y gall fod yn ofynnol cymell y geni, a bydd eich bydwraig neu eich meddyg yn trafod y rhain â chi. Mae'n bwysig eich bod yn deall pam y mae cymell y geni yn cael ei gynnig i chi, felly os nad ydych yn sicr, gofynnwch am eglurhad pellach gan y sawl sy'n archebu'r broses ar eich rhan. Nod y daflen hon yw eich helpu i baratoi ar gyfer yr hyn y gellir ei ddisgwyl yn ystod proses cymell y geni.

 

Beth yw Cymell y Geni?

Cymell y geni yw'r broses a ddefnyddir i ddechrau'r esgor mewn modd artiffisial. Y nod yw helpu i aeddfedu gwddf y groth i'w baratoi ar gyfer yr esgor. Rhan waelod y groth yw gwddf y groth, sy'n agor i ganiatáu i'r baban symud o'ch croth ac i lawr y llwybr geni i gael ei eni.

Yn ystod beichiogrwydd, mae gwddf y groth yn hir, yn gadarn ac ynghau. Tua diwedd eich beichiogrwydd mae'n meddalu neu'n aeddfedu. Pan fyddwch yn dechrau ar y cyfnod esgor, bydd yn meddalu rhagor, yn mynd yn fyrrach ac yn agor (ymledu).

Nid yw'n anarferol i'r broses cymell y geni gymryd hyd at bedwar neu bum niwrnod, er bod hyn yn wahanol i bawb.

Cofiwch ddod â digon o fyrbrydau a phethau i'ch diddanu. Mae croeso i chi ddod â'ch gliniadur neu tabled, ond gofynnwn i chi ddefnyddio clustffonau fel nad ydych yn tarfu ar y bobl eraill yn eich cilfan.

Rhagor o wybodaeth...

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: