Neidio i'r prif gynnwy

Trin y clefyd rhesws

Os bydd y clefyd rhesws yn datblygu mewn baban yn y groth, bydd y driniaeth yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r clefyd hwnnw. Efallai y bydd angen trallwyso gwaed y baban yn y groth mewn achosion mwy difrifol. Ar ôl geni’r baban, mae’n debygol o gael ei dderbyn i uned newydd-anedig (uned mewn ysbyty sy’n arbenigo mewn gofalu am fabanod newydd-anedig).

Ar ôl geni’r baban, gall y driniaeth ar gyfer y clefyd rhesws gynnwys triniaeth golau o’r enw ffototherapi, trallwysiadau gwaed, a chwistrellu hydoddiant o wrthgyrff (imiwnoglobwlin mewnwythiennol) i atal celloedd gwaed coch rhag cael eu dinistrio.

Os na chaiff y clefyd rhesws ei drin, gall achosion difrifol arwain at farw-enedigaeth. Mewn achosion eraill, gallai arwain at niwed i’r ymennydd, anawsterau dysgu, colli clyw a dallineb a cholli golwg.  Serch hynny, mae’r driniaeth fel arfer yn effeithiol ac mae’r problemau hyn yn anghyffredin. 

Cliciwch am fwy o wybodaeth am farw-enedigaeth yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)

Cliciwch am fwy o wybodaeth am colli clyw yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd) 

Cliciwch am fwy o wybodaeth am dallineb a cholli golwg yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)

Cliciwch am fwy o wybodaeth am drin y clefyd rhesws yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)

Cliciwch am fwy o wybodaeth am cymhlethdodau posibl oherwydd y clefyd rhesws yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: