Neidio i'r prif gynnwy

Profion sgrinio 28/40 wythnos

Grŵp gwaed a statws rhesws

Byddwch yn cael cynnig prawf gwaed i roi gwybod i chi a ydych yn perthyn i grŵp gwaed rhesws negatif neu resws positif. Os oes gennych waed rhesws negatif, efallai y bydd arnoch angen mwy o ofal i leihau’r risg o gael y clefyd rhesws. 

Cliciwch am fwy o wybodaeth am y clefyd rhesws yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)

Gallech fod â chlefyd rhesws os ydych yn perthyn i grŵp gwaed rhesws negatif a’ch bod yn feichiog. Os cewch y clefyd, bydd eich corff yn creu gwrthgyrff a fydd yn ymosod ar gelloedd gwaed eich baban. Gall hyn beri i’r baban gael anemia a’r clefyd melyn.

Os oes gennych waed rhesws negatif, gallech gael cynnig pigiadau yn ystod eich beichiogrwydd i’ch atal rhag creu’r gwrthgyrff hyn. Mae hyn yn ddiogel i’r fam a’r baban.

Cliciwch am fwy o wybodaeth am clefyd rhesws yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)

Anemia diffyg haearn

Mae anemia diffyg haearn  yn peri i chi deimlo’n flinedig ac yn lleihau eich gallu i ymdopi os byddwch yn colli gwaed yn ystod yr enedigaeth. 

Cliciwch am fwy o wybodaeth am anemia diffyg haearn yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)

Dylech gael cynnig profion sgrinio i weld a oes gennych anemia diffyg haearn yn ystod eich apwyntiad bwcio ac yn ystod wythnos 28.

Os bydd y profion yn dangos bod gennych anemia diffyg haearn, mae’n debygol y byddwch yn cael cynnig haearn ac asid ffolig.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: