Nid yw’r clefyd rhesws yn gyffredin heddiw oherwydd bod modd ei atal fel arfer trwy chwistrellu meddyginiaeth o’r enw imiwnoglobwlin gwrth D.
Mae pob menyw yn cael cynnig profion gwaed yn rhan o’i harchwiliadau a'i phrofion cynenedigol i weld a yw ei gwaed yn RhD negatif neu’n RhD positif.
Cliciwch am fwy o wybodaeth am profion gwaed yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)
Os yw gwaed y fam yn RhD negatif, bydd yn cael cynnig pigiadau imiwnoglobwlin gwrth D ar adegau penodol yn ystod ei beichiogrwydd pan allai ddod i gysylltiad â chelloedd gwaed coch ei baban. Mae’r imiwnoglobwlin gwrth D yn helpu i gael gwared ar gelloedd gwaed RhD y ffetws cyn iddynt allu peri i’r fam ddatblygu sensitifrwydd.
Os yw menyw wedi cynhyrchu gwrthgyrff gwrth D yn ystod beichiogrwydd blaenorol (ei bod eisoes yn sensitif), nid yw’r pigiadau imiwnoglobwlin hyn yn helpu. Bydd y beichiogrwydd, a’r baban ar ôl ei eni, yn cael eu monitro’n fanylach na’r arfer.