Mae dwy ffordd o roi fitamin K i’ch baban:
- trwy bigiad fitamin K sy’n cael ei roi yn union ar ôl geni eich baban
- trwy’r geg
Os byddwch y’n dewis rhoi fitamin K trwy’r geg, y ffurf fwyaf cyffredin yw Konakion. Os byddwch yn defnyddio Konakion, bydd ar eich baban angen:
- dau ddos yn ystod yr wythnos gyntaf os ydych yn defnyddio llaeth fformiwla (mae llaeth fformiwla eisoes yn cynnwys fitamin K)
- tri dos yn ystod yr wythnos gyntaf, a dos arall pan fydd yn fis oed, os ydych yn bwydo ar y fron