Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr o'ch dewisiadau geni

Cofnod o’r pethau y byddech yn hoffi iddynt ddigwydd yn ystod y cyfnod esgor ac ar ôl geni’r baban yw’r rhestr o’ch dewisiadau geni. Nid oes rhaid i chi greu rhestr o’r fath, ond, os hoffech wneud hynny, bydd eich bydwraig yn gallu eich helpu.  

Cliciwch am fwy o wybodaeth am y cyfnod esgor yma (Saesneg yn unig) (yn agor mewn dolen newydd)

O drafod eich dewisiadau geni â’ch bydwraig, bydd yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a dod i wybod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn ystod y cyfnod esgor.

Bydd hefyd yn gyfle i’ch bydwraig ddod i’ch adnabod yn well, a dod i ddeall eich teimladau a’ch blaenoriaethau, a bydd yn gyfle i chi feddwl yn fanylach am rai pethau neu eu trafod â’ch partner, eich ffrindiau a’ch perthnasau.

Gallwch chi ailystyried eich dymuniadau ar gyfer yr esgor a’r geni ar unrhyw adeg.

 

Eich amgylchiadau personol chi

Eich cynllun personol chi yw eich cynllun geni. Bydd yn dibynnu ar eich dymuniadau, eich hanes meddygol, eich amgylchiadau, a’r dewisiadau a gynigir gan eich gwasanaethau mamolaeth.

Byddwch yn cael ffurflen arbennig i nodi eich dewisiadau geni arni. Mae’n syniad da cadw copi o’ch dewisiadau geni gyda chi.

Bydd aelodau’r tîm mamolaeth a fydd yn gofalu amdanoch yn ystod y cyfnod esgor yn trafod eich cynllun â chi er mwyn iddynt wybod beth yw eich dewisiadau.

 

Byddwch yn hyblyg

Rydym yn eich annog i fod yn hyblyg ac i fod yn barod i wyro oddi wrth eich dewisiadau geni os byddwch chi neu eich baban yn wynebu cymhlethdodau, neu os na fydd cyfleusterau, megis pwll geni, ar gael.

Bydd aelodau’r tîm mamolaeth yn rhoi gwybod i chi beth yw eu cyngor nhw o ystyried eich amgylchiadau. Gofynnwch gwestiynau os oes angen i chi wneud hynny.

 

Pethau i'w hystyried

  • Ble yr ydych yn bwriadu geni’r baban
  • Eich partneriaid geni
  • A fydd unrhyw un yn torri llinyn bogail y baban?
  • A ydych yn bwriadu defnyddio pwll geni?
  • Eich dewis ar gyfer trydydd cam y cyfnod esgor (geni’r brych)
  • Sut yr ydych yn bwriadu geni’r baban
  • A ydych yn fodlon i fyfyrwyr fod yn bresennol yn yr ystafell eni
  • Eich dewisiadau o ran bwydo’ch baban
  • Fitamin K ar gyfer eich baban

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch i’ch bydwraig, a gofynnwch i gael rhestr dewisiadau geni.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: