Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw ystyr oedi cyn clampio'r llinyn bogail?

Mae’r llinyn bogail yn cysylltu’r brych â’r baban. Ar ôl geni eich baban, mae’r llinyn bogail yn dal i bylsadu, a hynny oherwydd ei fod yn dal i drosglwyddo gwaed, ocsigen a bôn-gelloedd i’ch baban tra ei fod yn ymgynefino â’r byd tu allan i’r groth.

Arferai fod yn gyffredin torri’r llinyn bogail yn union ar ôl geni’r baban. Erbyn hyn, mae’r canllawiau’n dweud bod oedi cyn clampio’r llinyn bogail yn well i chi a’ch baban.

Mae’n arferol aros hyd nes i’r llinyn bogail roi’r gorau i bylsadu a throi’n wyn cyn ei dorri. Fel arfer, dylai’r fydwraig allu teimlo pan fydd hyn yn digwydd trwy gyffwrdd â’r llinyn bogail. Oedi cyn clampio’r llinyn bogail yw’r enw ar hyn.

Ni ddylid clampio’r llinyn bogail lai na munud ar ôl yr enedigaeth.

Argymhellir clampio’r llinyn bogail cyn pen pum munud (er mwyn i’r brych allu dod allan ar ôl iddo wahanu oddi wrth y groth), ond gallwch ofyn iddo gael ei glampio a’i dorri’n ddiweddarach na hyn.  

Efallai y bydd angen i’ch meddyg neu’ch bydwraig glampio’r llinyn bogail yn gynharach os bydd yna broblem, er enghraifft, os bydd yna bryderon ynghylch curiad calon eich baban a bod angen cymorth arno/arni i anadlu.

Nid oes rhaid i chi oedi cyn clampio’r llinyn bogail os nad ydych am wneud hynny.

Gallwch oedi cyn clampio’r llinyn bogail os ydych yn cael rheolaeth weithredol neu ffisiolegol i eni’r brych ar ôl geni’r baban.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: