Neidio i'r prif gynnwy

Beth os oes angen cymorth ar y baban i anadlu pan gaiff ei eni?

Weithiau, bydd angen cymorth ychwanegol ar fabanod pan fyddant yn cael eu geni. Mae bydwragedd a meddygon wedi cael eu hyfforddi i wneud penderfyniadau i helpu babanod i ymgynefino â’r byd tu allan i’r groth. Gall fod yn bosibl helpu’ch baban heb dorri’r llinyn bogail.

Os oes modd, bydd aelodau eich tîm gofal iechyd yn darparu unrhyw ofal y mae ar eich baban ei angen ar unwaith ac yn cadw eich baban yn agos atoch cyn torri’r llinyn bogail. Mae gan rai ysbytai gyfarpar sy’n cynorthwyo’r baban i anadlu heb fod rhaid torri’r llinyn bogail.

Ond, os bydd angen mwy o gymorth ar eich baban, efallai y bydd angen i’ch tîm gofal iechyd dorri’r llinyn bogail ar unwaith.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: