Mewn achosion lle cafwyd oedi cyn clampio’r llinyn bogail, mae’r babanod yn wynebu ychydig mwy o risg o gael y clefyd melyn, ond mae’r achosion hyn fel arfer yn ysgafn.
Mae’r clefyd melyn yn gyffredin iawn ymhlith babanod newydd-anedig, a gall ddigwydd ni waeth pa mor fuan ar ôl geni’r baban y mae’r llinyn bogail yn cael ei glampio.
Bydd eich baban yn cael archwiliad cyn pen 72 awr ar ôl ei eni i weld a oes yna arwyddion o’r clefyd melyn, a hynny’n rhan o archwiliad corfforol babanod newydd-anedig.