Neidio i'r prif gynnwy

Geni'r brych (trydydd cam y cyfnod esgor)

Mae trydydd cam y cyfnod esgor yn digwydd ar ôl geni’r baban pan fydd y groth yn cyfangu a’r brych yn dod allan trwy’r wain.

Mae dwy ffordd o reoli’r rhan hon o’r cyfnod esgor:

  • gweithredol – lle rydych yn cael triniaeth i gyflymu’r cam
  • ffisiolegol – lle nad ydych yn cael unrhyw driniaeth ac mae’r cam yn digwydd yn naturiol

Bydd eich bydwraig yn egluro’r ddau ddull i chi pan fyddwch yn feichiog, neu’n gynnar yn ystod y cyfnod esgor, er mwyn i chi benderfynu ar eich dewis chi.

Mewn rhai sefyllfaoedd, nid yw rheolaeth ffisiolegol yn cael ei argymell. Gall eich bydwraig neu eich meddyg egluro os yw hyn yn berthnasol i chi.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: