Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw rheolaeth ffisiolegol?

Ni fyddwch yn cael pigiad ocsitosin, a bydd trydydd cam y cyfnod esgor yn digwydd yn naturiol.

Nid yw’r llinyn yn cael ei dorri hyd nes iddo roi’r gorau i bylsadu. Mae hyn yn golygu bod gwaed yn dal i basio o’r brych i’ch baban. Mae hyn fel arfer yn cymryd tua dwy i bedair munud.

Pan fydd y brych wedi datod oddi wrth y groth, dylech deimlo rhywfaint o bwysau yn eich pen-ôl, a bydd angen i chi wthio’r brych allan. Gall gymryd hyd at awr i’r brych ddatod, ond bydd fel arfer yn cymryd dim ond ychydig funudau i’w wthio allan.

Os na fydd y brych yn datod yn naturiol neu os byddwch yn dechrau gwaedu’n drwm, bydd eich bydwraig neu feddyg yn argymell rheoli’r cam hwn yn weithredol. Gallwch ddewis gwneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod trydydd cam y cyfnod esgor.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: