Neidio i'r prif gynnwy

Protein yn ystod beichiogrwydd

Bwytwch rywfaint o brotein bob dydd. Mae ffynonellau protein yn cynnwys:

  • ffa pob
  • codlysiau
  • pysgod
  • wyau
  • cig (ond osgowch afu/iau)
  • cyw iâr
  • cnau

Dewiswch gig heb lawer o fraster, tynnwch y croen oddi ar ddofednod a cheisiwch beidio ag ychwanegu braster neu olew wrth goginio cig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ffordd iach o fwyta cig (agor mewn dolen newydd).

Gofalwch fod dofednod, byrgyrs, selsig a darnau cyfan o gig, megis cig oen, cig eidion a phorc yn cael eu coginio’n drwyadl nes eu bod yn chwilboeth. Sicrhewch nad oes unrhyw gig pinc ac nad yw’r sudd yn llifo’n binc neu’n goch.

Ceisiwch fwyta dau ddogn o bysgod bob wythnos a dylai un ohonynt fod yn bysgod olewog fel eog, sardîns neu fecryll. Cliciwch am fwy o wybodaeth am fanteision bwyta pysgod a physgod cregyn o ran iechyd yma (agor mewn dolen newydd). Mae rhai mathau o bysgod y dylech eu hosgoi pan fyddwch yn feichiog neu’n ceisio beichiogi, gan gynnwys siarcod, cleddbysgod a marlinod.

Pan fyddwch yn feichiog, dylech osgoi bwyta mwy na ddau ddogn yr wythnos o bysgod olewog, megis eog, brithyll, macrell a phennog, am eu bod nhw’n gallu cynnwys llygryddion (tocsinau).

Dylech osgoi bwyta wyau amrwd neu wyau wedi’u coginio’n rhannol, gan fod perygl salmonela.

Mae’n ddiogel i fenywod beichiog fwyta wyau amrwd neu wyau wedi’u coginio’n rhannol os cawsant eu cynhyrchu o dan God Ymarfer y Llew Prydeinig, gan fod yr wyau hyn yn dod o heidiau sydd wedi’u brechu rhag salmonela.

Mae logo llew coch wedi’i stampio ar blisg yr wyau hyn. Gall menywod beichiog fwyta’r wyau hyn yn amrwd neu wedi’u coginio’n rhannol (er enghraifft wyau wedi’u berwi’n feddal).

Bernir bod wyau nas cynhyrchwyd o dan God y Llew yn llai diogel, a chynghorir menywod beichiog i osgoi eu bwyta’n amrwd neu wedi’u coginio’n rhannol, gan gynnwys mewn mousse, mayonnaise a soufflé. Dylai’r wyau hyn gael eu coginio nes bod y gwynnwy a’r melynwy yn galed.

Cliciwch am fwy o wybodaeth am fwydydd i’w hosgoi yn ystod beichiogrwydd yma (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: