Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi bwyd yn ddiogel

  • Golchwch ffrwythau, llysiau a salad i gael gwared â’r holl olion pridd, a allai gynnwys tocsoplasma (parasit sy’n gallu achosi tocsoplasmosis sy’n gallu niweidio eich babi yn y groth. Cliciwch am fwy o wybodaeth am tocsoplasmosis yma (agor mewn dolen newydd)
  • Ar ôl paratoi bwydydd amrwd (dofednod, cig, wyau, pysgod, pysgod cregyn a llysiau amrwd) golchwch yr arwynebau a’r offer coginio i gyd a golchwch eich dwylo i’ch helpu i osgoi gwenwyn bwyd
  • Gofalwch fod bwydydd amrwd yn cael eu cadw ar wahân i fwydydd sy’n barod i’w bwyta, fel arall mae yna risg o halogi
  • Defnyddiwch gyllell a bwrdd torri ar wahân ar gyfer cig amrwd
  • Twymwch brydau parod nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt – mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer prydau bwyd sy’n cynnwys dofednod.

Mae angen i chi hefyd sicrhau bod rhai bwydydd, fel wyau, dofednod, byrgyrs, selsig a darnau cyfan o gig megis cig oen, cig eidion a phorc yn cael eu coginio’n drylwyr nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt.

Cliciwch am fwy o wybodaeth am bwydydd i’w hosgoi yn ystod beichiogrwydd yma (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: