Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwythau a llysiau yn ystod beichiogrwydd

Bwytwch ddigon o ffrwythau a llysiau oherwydd mae’r rhain yn darparu fitaminau a mwynau, yn ogystal â ffeibr, sy’n helpu treuliad ac yn gallu helpu i atal rhwymedd. Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth am rhwymedd (agor mewn dolen newydd).

Bwytwch o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd – gall y rhain fod yn ffres, wedi’u rhewi, mewn tun, wedi’u sychu neu mewn sudd. Cofiwch olchi ffrwythau a llysiau ffres yn ofalus bob amser.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: