Neidio i'r prif gynnwy

Does dim angen "bwyta digon i ddau"

Mae’n debyg y gwelwch fod arnoch eisiau bwyd yn fwy nag arfer, ond nid oes angen i chi “fwyta digon i ddau” – hyd yn oed os ydych yn disgwyl gefeilliaid neu dripledi.

Ceisiwch gymryd brecwast iach bob dydd, oherwydd gall hyn eich helpu i osgoi bwyta byrbrydau sy’n uchel mewn braster a siwgr.

Yn aml, mae bwyta’n iach yn golygu newid faint o fwydydd gwahanol yr ydych yn eu bwyta, er mwyn cael deiet amrywiol, yn hytrach na cheisio osgoi eich holl ffefrynnau. Gallwch ddefnyddio’r Canllaw Bwyta’n Iach er mwyn sicrhau’r cydbwysedd iawn yn eich deiet gan ei fod yn dangos faint o’ch bwyd a ddylai ddod o bob grŵp bwyd er mwyn sicrhau deiet iach a chytbwys.

Nid oes angen i chi sicrhau’r cydbwysedd hwn ym mhob pryd bwyd, ond ceisiwch gael y cydbwysedd cywir dros gyfnod o wythnos.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: