Neidio i'r prif gynnwy

Cynhyrchion llaeth yn ystod beichiogrwydd

Mae bwydydd y llaethdy, fel llaeth, caws, fromage frais ac iogwrt yn bwysig yn ystod beichiogrwydd am eu bod nhw’n cynnwys calsiwm a maethynnau eraill y mae eu hangen arnoch chi a’ch babi.

Dewiswch y mathau sy’n isel mewn braster pan fydd hynny’n bosibl, megis llaeth hanner sgim, llaeth sgim neu laeth â llai nag 1% o fraster, iogwrt isel o ran braster a siwgr a chaws caled braster is.

Os ydych yn ffafrio cynhyrchion di-laeth, megis diodydd ac iogwrt soia, dewiswch fersiynau heb eu melysu sydd wedi’u cyfnerthu â chalsiwm.

Dysgwch ragor am Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am fanteision maethol cynhyrchion llaeth a dewisiadau amgen (agor mewn dolen newydd).

Dylech osgoi rhai mathau o gawsiau yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys cawsiau heb eu pasteureiddio. I gael gwybod pa gawsiau y dylech eu hosgoi yn ystod beichiogrwydd, edrychwch ar ein tudalen am fwydydd y dylech eu hosgoi yn ystod beichiogrwydd.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am fwydydd y dylech eu hosgoi yn ystod beichiogrwydd (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: